|
Mae Pensaer yn bennaf yn ymwneud å dylunio a chynllunio - yn cynnwys ailwampio, adnewyddu, ail-ddyllunio ac adeilad newydd. Mae rhai yn arbenigo mewn cadwraeth o hen adeiladau, neu wyddoniaeth amgylcheddol o adeiladau ayyb.
Technegydd Pensaernïol fydd yn darlunio cynlluniau a gweddluniau yn ol y pensaer.
Mae Syrfëwr Adeiladu yn gyfrifol am agweddau technegol a chyflwr adeiladau.
Mae Dylunydd Graffig yn gyfrifol am gymeryd gwybodaeth a'i gyhoeddi mewn fford ddiddorol a chreadigol gweledol e.e. pamffledi, posteri, cylchlythyron a symbolau.
Mae Dylunydd Mewnol yn gyfrifol am ddylunio lleoliadau mewnol, eu harddurno a'u dodrefnu.
Mae Pensaer Tirlun yn gyfrifol am ddylunio a phlannu yn yr awyr agored - yn cynnwys tirwedd 'meddal' (glaswellt, coed, planhigion) a thirwedd 'caled' (maesydd chwarae, ardaloedd pafin, o gwmpas adeiladau) ayyb.
Mae Syrfëwr Tir/Dadansoddwr Safle yn gwneud arolygaeth fanwl o safleoedd a thir, yn cynnwys pynciau daearegol (yn berthnasol mewn ardaloedd glofaol a/neu ardaloedd llygru gwenwyno)
Mae Cynllunwr yn gyfrifol am waith cynllunio holl bynciau amgylcheddol ar lefl strategol.
Mae Arolygydd Cynllunio yn ymneud â dylunio adeiliadwaith a rheolaeth ynghyd destun lechyd a Diogelwych.
Mae Syrfëwr Meintiau yn gyfrifol am holl agweddau costio a rheolaeth cyllid o brosiectau adeiladwaith, ynghyd å rheolaeth prosiect.
Mae Peiriannydd Saernïol yn gyfrifol am sefydlogrwydd saernïol adeiladau sy'n bodoli ac i ddod.
Mae Dylunydd Dinesig yn cyfrifol am gynllunio a dylunio'r amgylchedd adeiladol ar raddfa eang - sut y gellir cael pentrefi threfi i weithio'm well.
|